Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi, defnyddiwr y wefan hon, a Chyngor Tref Rhuthun, perchennog a darparydd y wefan. Mae Cyngor Tref Rhuthun o ddifrif ynghylch preifatrwydd eich gwybodaeth chi. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’n defnydd o unrhyw a’r holl ddata a gesglir gennym ni neu a ddarperir i chi yng nghyswllt defnyddio’r wefan. Darllenwch y polisi preifatrwydd hwn yn ofalus, os gwelwch yn dda.

Diffiniadau a dehongliad

  1. Defnyddir y diffiniadau a ganlyn yn y polisi preifatrwydd hwn:

Data

yr holl wybodaeth rydych chi’n ei darparu i Gyngor Tref Rhuthun trwy’r wefan. Mae’r diffiniad hwn yn ymgorffori, lle bo’n berthnasol, y diffiniadau a ddarperir yn Neddf Diogelu Data 1998;

Cwcis

ffeil testun bychan a roir ar eich cyfrifiadur gan y wefan hon pan fyddwch chi’n edrych ar rannau penodol y wefan a/neu wrth ddefnyddio nodweddion penodol yn y wefan. Nodir manylion y cwcis a ddefnyddir gan y wefan hon yn y cymal isod (Cwcis);

Cyngor Tref Rhuthun, neuni

Cyngor Tref Rhuthun a leolir yn Neuadd y Dref, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1AS;

Deddfwriaeth Cwcis y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd

Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Cyfarwyddeb y Comisiwn Ewropeaidd) 2003 fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y Comisiwn Ewropeaidd) (Diwygio) 2011; t

Defnyddiwr neuchi

unrhyw drydydd parti sy’n defnyddio’r wefan ac nad yw un ai (i) wedi’i gyflogi gan Gyngor Tref Rhuthun ac yn gweithredu fel rhan o’u cyflogaeth neu (ii) wedi’i gomisiynu fel ymgynghorydd neu fel arall i ddarparu gwasanaethau i Gyngor Tref Rhuthun ac yn defnyddio’r wefan yng nghyswllt darpariaeth gwasanaethau o’r fath; a

Y wefan

y wefan rydych chi’n ei defnyddio ar hyn o bryd, www.cyngortrefrhuthun.gov.uk, ac unrhyw is-barthau’r wefan hon oni bai eu bod wedi eu heithrio yn benodol yn eu telerau a’u hamodau eu hunain.

  1. Yn y polisi preifatrwydd hwn, oni bai bod y cyd-destun yn ei gwneud yn ofynnol dehongli yn wahanol:

    i. mae’r unigol yn cynnwys y lluosog ac i’r gwrthwyneb;

    ii. mae cyfeiriadau at is-gymalau, cymalau, atodlenni neu atodiadau yn cyfeirio at is-gymalau, cymalau, atodlenni neu atodiadau i’r polisi preifatrwydd hwn;

    iii. mae cyfeiriad at berson yn cynnwys cwmnïau, endidau’r llywodraeth, ymddiriedolaethau a phartneriaethau;

    iv. deallir “cynnwys” yn yr ystyr o “cynnwys heb gyfyngiadau”;

    v. mae cyfeiriad at unrhyw ddarpariaeth statudol yn cynnwys unrhyw addasiad neu ddiwygiad iddo;

    vi. nid yw’r penawdau na’r is-benawdau yn ffurfio rhan o’r polisi preifatrwydd hwn.

Sgôp y polisi preifatrwydd hwn

  1. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i weithredoedd Cyngor Tref Rhuthun a Defnyddwyr yng nghyswllt y wefan hon. Nid yw’n ymestyn i unrhyw wefannau y gellir cael mynediad iddynt o’r wefan hon yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu I, unrhyw ddolenni a ddarperir i wefannau cyfryngau cymdeithasol.

Data a gesglir

  1. Gallem gasglu’r data isod, sy’n cynnwys data personol, gennych chi:

    i. Enw;

    ii. Manylion cyswllt megis cyfeiriad e-bost a rhif ffôn;

    iii. Gwybodaeth ddemograffig fel cod post, dewisiadau a diddordebau;

    iv. Cyfeiriad Darparydd Rhyngrwyd (IP) (cesglir yn awtomatig);

    v. Math a fersiwn y gwe borwr (cesglir yn awtomatig);

    vi. System weithredu (cesglir yn awtomatig);

    vii. Rhestr cyfeiriadau URL yn dechrau gyda gwefan gyfeirio, eich gweithgarwch chi ar y wefan hon a’r wefan rydych chi’n gadael y wefan hon i fynd iddi (cesglir yn awtomatig);

    viii. Ym mhob achos, yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn,

Defnyddio Data

  1. At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998, Cyngor Tref Rhuthun yw’r “rheolwr data”.

  2. Byddwn yn cadw unrhyw ddata rydych chi’n ei roi am hyn at 12 mis o ddiffyg gweithgarwch, ac eithrio cyfrifon defnyddwyr a gedwir yn amhenodol, a’u terfynu un ai gennych chi, neu gennym ni am unrhyw reswm neu oherwydd dileu’r wefan hon.

  3. Oni bai ei bod yn ofynnol neu y caniateir i ni wneud hynny trwy’r gyfraith, ac yn ddarostyngedig i unrhyw ddatgeliadau trydydd parti a nodir yn benodol yn y polisi hwn, ni chaiff eich data ei ddatgelu i drydydd partïon. Mae hyn yn cynnwys ein cwmnïau cyswllt a/neu unrhyw gwmnïau eraill yn y grŵp.

  4. Mae’r holl ddata personol yn cael ei storio’n ddiogel yn unol ag egwyddorion Deddf Diogelu Data 1998. Am ragor o fanylion ynghylch diogeleed gweler y cymal isod (Diogeledd).

  5. Gall y cyfan neu gyfran o’r data uchod fod yn ofynnol o dro i dro i ddarparu’r gwasanaeth a’r profiad gorau posibl i chi wrth ddefnyddio ein gwefan. Yn benodol, gellid defnyddio’r data gennym ni am y rhesymau a ganlyn:

    i. cadw cofnodion mewnol;

    ii. gwella ein cynhyrchion / gwasanaethau;

    iii. trosglwyddo deunyddiau hyrwyddo a allai fod o ddefnydd i chi trwy e-bost;

    iv. cysylltu at ddibenion ymchwil i’r farchnad, y gellid ei wneud trwy e-bost, ffôn, ffacs neu drwy’r post. Gellid defnyddio gwybodaeth o’r fath I ddiweddaru neu deilwra’r wefan;

    v. cynnal a chadw neu ddiogelu data.

  6. Mewn achosion lle lluniwyd cyfrif defnyddiwr ar ein gwefan, gallem ddefnyddio’r data i gysylltu gyda chi ynghylch y gwasanaeth rydych chi’n ei dderbyn a’ch hysbysu am y newidiadau.

  7. Mewn achosion lle bo cynnyrch neu wasanaeth wedi’i brynu, gallem ddefnyddio’r data i gysylltu gyda chi ynghylch y cynnyrch neu’r gwasanaeth, a allai gynnwys negeseuon atgoffa neu hysbysiadau. Gellir argraffu data penodol, fel cyfeiriad neu wybodaeth gyswllt, at ddibenion danfon nwyddau.

ym mhob achos, yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Gwefannau a gwasanaethau trydydd parti

  1. Gall Cyngor Tref Rhuthun, o dro i dro, gyflogi gwasanaethau partïon eraill i ymdrin â phrosesau penodol sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithredu’r wefan. Bydd gan ddarparwyr gwasanaethau o’r fath fynediad at ddata personol penodol a ddarperir gan ddefnyddwyr y wefan hon.

  2. Bydd unrhyw ddata a ddefnyddir gan bartïon o’r fath yn cael ei ddefnyddio yn unig i’r graddau sy’n ofynnol iddynt gyflawni’r gwasanaethau a ofynnwyd amdanynt gennym ni. Gwaherddir defnyddio’r data at unrhyw ddibenion eraill. Ymhellach, bydd unrhyw ddata a brosesir gan drydydd partïon yn cael ei brosesu yn unol â thelerau’r polisi preifatrwydd hwn ac yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

  3. Gallai ein gwefan ddefnyddio pyrth talu trydydd parti fel PayPal neu Stripe. Yn ystod y broses dalu rydym ni’n cael eich gwybodaeth danfon nwyddau a bilio ond mae’r wybodaeth ynghylch y trafodyn ariannol yn mynd trwy’r porth a ddefnyddir yn unig. Wrth dalu, rydych chi’n ddarostyngedig i bolisïau’r darparydd porth, nid Cyngor Tref Rhuthun.

Dolenni i wefannau eraill

  1. Gallai’r wefan hon ddarparu dolenni i wefannau eraill, o dro i dro. Nid oes gennym ni unrhyw reolaeth dros wefannau o’r fath ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn. Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn ymestyn i’ch defnydd o wefannau o’r fath. Fe’ch cynghorir i ddarllen polisi neu ddatganiad preifatrwydd gwefannau eraill cyn eu defnyddio.

Newidiadau i berchnogaeth a rheolaeth y busnes

  1. Gallai Cyngor Tref Rhuthun ehangu neu leihau ei fusnes, o dro i dro, a gallai hynny gynnwys gwerthu a/neu drosglwyddo rheoli’r cyfan neu ran o Gyngor Tref Rhuthun. Bydd data a ddarperir gan ddefnyddwyr, lle bo’n berthnasol i unrhyw ran o’r busnes a drosglwyddir yn y fath fodd, gael ei drosglwyddo ynghyd â’r rhan honno a bydd y perchennog newydd neu’r parti rheoli newydd yn, dan delerau’r polisi preifatrwydd hwn, yn cael caniatâd i ddefnyddio’r data at y dibenion y cafodd ei ddarparu i ni yn wreiddiol.

  2. Hefyd gallem ddatgelu data i brynwr arfaethedig ein busnes neu unrhyw ran ohonno.

  3. Yn yr achosion uchod byddwn yn cymryd camau gyda’r nod o sicrhau amddiffyn eich preifatrwydd.

Rheoli defnyddio eich data

  1. Pryd bynnag y bo’n ofynnol i chi gyflwyno data, rhoir dewisiadau i chi gyfyngu ar ein defnydd o’r data hwnnw. Gallai hynny gynnwys y canlynol:

    i. defnyddio data at ddibenion marchnata uniongyrchol; a

    ii. rhannu data gyda thrydydd partïon.

  2. Yn unôl â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) mae gennych chi’r hawliau isod hefyd:

    i. Yr hawl i gael eich hysbysu Mae gennych chi’r hawl i wybod sut rydym ni’n defnyddio eich data, sef pwrpas y polisi hwn.

    ii. Yr hawl i weld eich data Cewch ofyn am weld eich data mewn fformat a ddefnyddir yn gyffredin, fel CSV, ar unrhyw adeg. Cewch wneud hyn trwy gysylltu gyda’r Swyddog Preifatrwydd trwy e-bost (clerc@cyngortrefrhuthun.gov.uk) gyda chais i weld eich data.

    iii. Yr hawl i gywiro Cewch gywiro gwybodaeth anghyflawn neu anghywir. Mewn achosion lle rydych chi’n rheoli cyfrif defnyddiwr gallwch wneud hyn eich hun trwy’r gosodiadau a ddarperir neu cewch gysylltu gyda’r Swyddog Preifatrwydd trwy e-bost (clerc@cyngortrefrhuthun.gov.uk).

    iv. Yr hawl i ddileu Cewch ofyn am ddileu neu gael gwared ar ddata personol pan nad oedd rheswm dilys dros barhau i’w brosesu. Cyfeirir at hyn hefyd fel “yr hawl i gael eich anghofio”.

    v. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu Mae gennych chi’r hawl i atal prosesu data personol hefyd. Mewn achosion o’r fath cawn storio’r data ond ni chawn ei brosesu mwyach.

    vi. Yr hawl i fod yn gludadwy Mae gennych chi’r hawl i gael ac ailddefnyddio eich data personol at eich dibenion eich hun. Darperir hyn mewn fformat cyffredin, megis CSV.

    vii. Yr hawl i wrthwynebu Cewch wrthwynebu defnyddio eich data personol. Mae hyn yn cynnwys at ddibenion marchnata cyffredinol, ymchwil ac ystadegau.

    viii. Hawliau’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau awtomatig, yn cynnwys proffilio Mae’r rheol hon yn nodi pryd y cawn ddefnyddio proffilio a gwneud penderfyniadau awtomatig. Mae hefyd yn diffinio’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni, fel yr unigolyn yn darparu caniatâd penodol.

Defnyddio’r wefan

  1. Gall fod yn ofynnol i chi ddarparu data penodol er mwyn defnyddio holl nodweddion a swyddogaethau’r wefan.

  2. Cewch gyfyngu ar ddefnyddio Cwcis gan eich gwe borwr. Am ragor o wybodaeth edrychwch ar y cymal isod (Cwcis).

Gweld eich data eich hun

  1. Mae gennych chi’r hawl i ofyn am gopi o’r data personol a gedwir gan Gyngor Tref Rhuthun (lle bo data o’r fath yn cael ei ddal). Rhaid talu ffi bychan, na fydd yn goresgyn £25.00.

Diogeledd

  1. Mae diogeledd data yn bwysig iawn i Gyngor Tref Rhuthun ac er mwyn diogelu eich data rydym ni wedi cyflwyno gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol i ddiogelu data a gesglir trwy’r wefan hon.

  2. Os yw’n ofynnol defnyddio cyfrinair ar gyfer rhannau penodol y wefan, rydych chi’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair yn gyfrinachol.

  3. Ymdrechwn i wneud ein gorau i ddiogelu eich data personol. Fodd bynnag, nid yw trosglwyddo gwybodaeth trwy’r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel a gwneir hyn ar eich risg eich hun. Ni fedrwn sicrhau diogeledd eich data a drosglwyddir i’r wefan.

Cwcis

  1. Gallai’r wefan hon osod a chael mynediad i gwcis penodol ar eich cyfrifiadur chi. Mae Cyngor Tref Rhuthun yn defnyddio cwcis i wella eich profiad o ddefnyddio’r wefan a gwella’r ystod o gynhyrchion a gwasanaethau. Mae Cyngor Tref Rhuthun wedi dewis y cwcis hyn yn ofalus ac mae wedi cymryd camau i sicrhau amddiffyn a pharchu eich preifatrwydd chi bob amser.

  2. Mae’r holl cwcis a ddefnyddir gan y wefan hon yn unol â deddfwriaeth Cwcis cyfredol y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

  3. Cyn i’r wefan roi cwcis ar eich cyfrifiadur byddwch yn gweld neges yn gofyn am eich caniatâd i osod y cwcis hynny. Trwy roi eich caniatâd i roi’r cwcis, rydych chi’n galluogi Cyngor Tref Rhuthun i ddarparu gwell profiad a gwasanaeth i chi. Cewch, os dymunwch, wrthod rhoi caniatâd i osod cwcis; fodd bynnag, efallai na fydd rhai o nodweddion y wefan yn gweithredu’n llawn neu fel y’i bwriadwyd.

  4. Gallai’r wefan hon osod y Cwcis a ganlyn:

  5. Math a diben Cwcis:

    i. Cwcis angenrheidiol: Cwcis sy’n ofynnol ar gyfer gweithredu ein gwefan. Maent yn cynnwys, er enghraifft, cwcis sy’n eich galluogi chi i fewngofnodi i ardaloedd diogel ein gwefan, defnyddio troli siopa neu wneud defnydd o wasanaethau bilio electronig.

    ii. Cwcis dadansoddol / perfformiad: Bydd y rhain yn caniatáu i ni adnabod a chyfri nifer yr ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyd yn symud o gwmpas ein gwefan wrth iddynt ei defnyddio. Mae hyn yn ein cynorthwyo ni i wella’r ffordd mae’r wefan yn gweithio, er enghraifft, trwy sicrhau bod defnyddwyr yn dod o hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano yn hawdd.

    iii. Cwcis swyddogaethol: Defnyddir y rhai i’ch adnabod chi pan rydych chi’n dychwelyd i’r wefan. Mae hyn yn ein galluogi ni i bersonoli ein cynnwys ar eich cyfer chi, eich cyfarch wrth eich enw a chofio eich dewisiadau (er enghraifft, eich dewis iaith neu eich rhanbarth).

  6. Cewch ddewis galluogi neu analluogi Cwcis yn eich gwe borwr. Mae’r rhan fwyaf o we borwyr yn derbyn Cwcis yn awtomatig, ond gellir newid hyn. Os hoffech gael rhagor o fanylion edrychwch ar y ddewislen help yn eich gwe borwr.

  7. Cewch ddewis dileu Cwcis ar unrhyw adeg; fodd bynnag, fe allech chi golli unrhyw wybodaeth sy’n eich galluogi chi i weld y wefan yn gyflymach ac yn fwy effeithiol yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i osodiadau personoli.

  8. Argymhellir eich bod yn sicrhau bod eich gwe borwr yr un diweddaraf a’ch bod chi’n edrych ar y cymorth a’r arweiniad a ddarperir gan ddatblygwr eich gwe borwr os ydych chi’n ansicr ynghylch addasu eich gosodiadau preifatrwydd.

Cyffredinol

  1. Ni chewch drosglwyddo unrhyw rai o’ch hawliau chi o dan y polisi preifatrwydd hwn i unrhyw unigolyn arall. Gallwn drosglwyddo ein hawliau ni o dan y polisi preifatrwydd hwn lle y credwn yn rhesymol na fydd hynny’n effeithio ar eich hawliau chi.

  2. Os yw unrhyw lys neu awdurdod cymwys yn canfod bod unrhyw ddarpariaeth yn y polisi preifatrwydd hwn (neu unrhyw ran o ddarpariaeth) yn annilys, anghyfreithlon neu na ellir ei orfodi, tybir bod y ddarpariaeth honno neu’r rhan o’r ddarpariaeth, i’r graddau sy’n ofynnol, wedi’i dileu, ac ni fydd hynny’n effeithio ar ddilysrwydd a gorfodaeth darpariaethau eraill y polisi preifatrwydd hwn.

  3. Oni bai y cytunir fel arall, ni fydd unrhyw oedi, gweithred neu anweithred gan barti wrth weithredu unrhyw hawl neu adferiad yn cael ei ystyried yn hepgor yr hawl neu’r adferiad hwnnw neu unrhyw hawl neu adferiad arall.

  4. Rheolir a dehonglir y Cytundeb hwn yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr. Bydd yr holl anghydfodau sy’n deillio o dan y Cytundeb hwn yn ddarostyngedig i awdurdodau llysoedd Cymru a Lloegr yn benodol.

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

  1. Mae Cyngor Tref Rhuthun yn cadw’r hawl i newid y polisi preifatrwydd hwn fel y tybir y bo’n ofynnol o dro i dro neu fel y bo’n ofynnol gan y gyfraith. Bydd unrhyw newidiadau’n cael eu rhoi ar y wefan ar unwaith a thybir eich bod wedi derbyn telerau’r polisi preifatrwydd ar adeg defnyddio’r wefan am y tro cyntaf yn dilyn y newidiadau. Mae croeso i chi gysylltu gyda Chyngor Tref Rhuthun trwy e-bost – clerc@cyngortrefrhuthun.gov.uk.

    24 Mai 2018

Top