Hafan > Ymweld â Rhuthun > Eich Ymweliad
Dewch i ddarganfod Rhuthun, trysor o dref, sy’n swatio yng nghanol Sir Ddinbych,Gogledd Cymru.
Mae’r dref hudolus hon, a enwyd gan y Sunday Times yn 2023 fel y dref orau i fyw ynddi, yn eich denu i ymchwilio i’w hanes cyfoethog, ei phensaernïaeth drawiadol a’i thirluniau naturiol, lleol, syfrdanol.
Dyma pam y dylech ymweld â Rhuthun nesaf:
Ymgollwch yn hanes cyfareddol Rhuthun, cartref y Castell mawreddog, sy’n cyfuno pensaernïaeth fodern a chanoloesol, ac sy’n adrodd streaeon ddoe. Clywch adleisiau o’r gorffennol.
Rhyfeddwch at gymysgedd unigryw’r dref o arddulliau pensaernïol, o adeiladau hudolus fframiau pren i wychder Oes Victoria. Mae pob cornel o Rhuthun yn cynnig cefnlen pictiwrésg, berffaith ar gyfer eich llun Instagram nesaf.
Mae Rhuthun yn baradwys i’r sawl sy’n hoffi’r awyr agored, wedi ei amgylchynu gan dirluniau syfrdanol Bryniau Clwyd.. P’un ai a ydych yn cerdded, beicio neu ddim ond yn gwerthfawrogi’r golygfeydd, mae antur ar garreg eich drws.
Profwch fyd bywiog y celfyddydau yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, lle daw gweithdai ac arddangosfeydd crefft cyfoes â,chreadigrwydd yn fyw. Peidiwch â methu Gŵyl Rhuthun sy’n dathlu diwylliant a thraddodiadau cyfoethog ein hardal. Am wythnos bob mis Medi, agorir rhai o’n drysau i ddatgelu’r hyn sydd fel arfer yn gudd.
Mwynhewh flasu cynnyrch Cymreig yn ein caffis, siopau coffi, bwytai a thafarndai hyfryd. Blaswch fwydydd traddodiadol Cymreig ac ymwelwch â’r farchnad leol sy’n llawn cynnych ffres ac anrhegion unigryw.
Rhuthun yw’r lleoliad perffaith i grwydro Gogledd Cymru. Mae eich dewis o leoedd i fynd ar antur yn ddiddiwedd, gan eich bod o fewn pellter agos i Barc Cenedlaethol Eryri, Llangollen, Conwy a dinas hanesyddol Caer.