Hafan > Ymweld â Rhuthun > Ruthun sy’n gyfeillgar i goetsys
Mae Rhuthun yn falch o fod yn gyrchfan twristiaeth hyfryd. Mae’n dref fach ryfeddol sydd â dros 800 mlynedd o hanes, wedi’i lleoli yn un o dirluniau harddaf Prydain. Gyda’i strydoedd troellog, ei phensaernïaeth ryfeddol, siopau annibynnol niferus a bwyd da, mae gan Rhuthun lawer i’w gynnig i ymwelwyr.
Parc Coetsys: Gellir parcio’n RHAD AC AM DDIM yng Nghanolfan Grefft Rhuthun LL15 1BB
Mannau codi/gollwng: Maes parcio Heol y Parc LL15 1HP.
Toiledau: Mae toiledau ar gael i’w defnyddio’n rhad ac am ddim yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Mae toiledau ym maes parcio parc Cae Ddol, oddi ar Stryd Clwyd, ond mae angen talu yma.
Mynediad am ddim.
Mae’r gorau o gelfyddyd gymhwysol gyfoes, genedlaethol a rhyngwladol i’w gweld yn y brif oriel, ynghyd ag arddangosfeydd/gweithdau eraill o ddiddordeb.
Gwefan Canolfan Grefft Rhuthun
Ar agor rhwng dydd Mawrth a dydd Sul o 10.00am tan 5.30pm.
Heol y Parc, Rhuthun
Sir Ddinbych, LL15 1BB
Ffôn: 01824 704774
I drafod archebu ar gyfer grŵp yng Nghaffi R, ffoniwch 01824 708099
Mae amrywiaeth o westai, caffis a thafarndai yn y dref hefyd.
Gwybodaeth i weithredwyr a gyrrwyr: Parcio rhad ac am ddim yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Gellir prynu lluniaeth ar y safle yng Nghaffi R ac mae toiledau ar gael yno, i’w defnyddio’n rhad ac am ddim. Mae archfarchnad Tesco gyferbyn â’r Ganolfan Grefft.
Y Carchar yw un o’r mannau mwyaf poblogaidd i ymweld ag o yn Rhuthun, a dyma’r unig garchar pwrpasol mewn arddull Pentonville, sydd ar agor i’r cyhoedd fel atyniad treftdaeth yn y Deyrnas Unedig. Treuliwch amser yn crwydro pob twll a chornel ac yn dysgu am fywyd yn y system garchardai Fictorianaidd, a dysgwch am ei ddefnydd fel Ffatri Arfau Rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Rhagor o fanylion am amseroedd agor a chost
Gwefan Carchar Rhuthun | Cyngor Sir Ddinbych
Ymwelwch ag un o’r tai tref ffrâm goed, dyddiedig, hynaf yng Nghymru, a adeiladwyd ym 1434/5 ac sydd wedi’i adnewyddu’n ofalus i saith oes wahanol, pan oedd pobl yn byw yn y tŷ. Ewch i weld Gardd yr Arglwydd hefyd.
Rhagor o fanylion am amseroedd agor a chost
Gwefan Nantclwyd y Dre | Cyngor Sir Ddinbych
Sylwer bod Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre ar agor ar gyfer ymweliadau cyffredinol rhwng mis Ebrill a mis Medi, ac ar gyfer teithiau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig yn ystod y gaeaf. Mae angen i grwpiau sy’n dymuno cael taith wedi’i thywys gan berson archebu ymlaen llaw gyda’r lleoliadau. Gweler y wefan am fanylion.
Dysgwch am y chwedl lle dienyddiodd y Brenin Arthur Huail, a’r Hen Lys, a ail-adeiladwyd ar ôl i Dywysog olaf Cymru, Owain Glyndwr, ymosod ar y dref ym mis Medi 1400. Mae’r Hen Lys, sydd â deunydd dehongli, ar agor i’r cyhoedd weithiau yn ystod misoedd yr haf a gellir gwneud trefniadau i ymweld drwy Gyngor Tref Rhuthun.
Yr Hen Lys | Cyngor Tref Rhuthun
E-bost clerk@ruthintowncouncil.gov.uk
Beth am gael lluniaeth yn y Castell godidog o’r 19eg Ganrif a chrwydro o amgylch tir y castell canoloesol, rhan o’r cylch haearn o gestyll a adeiladwyd gan Edward 1 ar ei dir.
Gwefan The Dragon Tavern in Ruthin | Ruthin Castle Hotel & Spa
Gwefan - History of Ruthin Castle | Ruthin Castle Hotel & Spa
Gall Tywyswyr Gorau Cymru cwbl gymwys ddarparu teithiau gydag ychwanegiadau dewisol, fel ymweliadau ag amrywiol atyniadau, bore goffi, tê prynhawn, cinio neu de hufen. Mae teithiau arferol o amgylch Rhuthun yn para tua awr a hanner, ond gellir yn hawdd drefnu’r amser a’r testun i weddu i bob grŵp. Gallant hefyd drefnu ymweliadau ymgyfarwyddo i drefnwyr grwpiau, i’w helpu i ddysgu am yr atyniadau a’r cyfleusterau yr ydym yn eu cynnig.
Gwefan Darganfod Tywysydd Taith Yng Nghymru
Lawrlwythwch gopi o un o lwybrau Rhuthun, sy’n cynnwys llyfryn Cerdded yn Araf manwl, Llwybr y Dref - Rhuthun, Llwybr Celf Rhuthun neu Rhuthun – Lluniwyd gan Goed
Llwybrau | Cyngor Tref Rhuthun
Am wybodaeth/ymholiadau mwy cyffredinol, cysylltwch â Chyngor Sir Ddinbych
T: 01824 706000
E: tourism@denbighshire.gov.uk neu heritage@denbighshire.gov.uk