Cyfarfodydd

Hafan > Cyngor Tref Rhuthun > Cyfarfodydd

Mae’r Cyngor Tref yn cyfarfod ar ffurf hybrid, yn bersonol yn yr Hen Lys, Sgwar Sant Pedr, Rhuthun ac ar-lein drwy gyfrwng Zoom.

Sylwch – mae’r rhain yn gyfarfodydd cyhoeddus y gellir eu mynychu yn bersonol neu drwy Zoom. Cysylltwch â clerc@cyngortrefrhuthun.gov.uk am ragor o fanylion.

Fel arfer bydd y Cyngor Tref yn cynnal Cyfarfod Llawn o’r Cyngor unwaith y mis (ar wahân i fis Awst), sy’n dechrau am 7pm. Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol bob mis Mai.

Mae dau bwyllgor ar hyn o bryd ac maen nhw’n cyfarfod bob mis. Y Pwyllgor Pwrpasau Cyffredinol, Cynllunio a Chyllid a’r Pwyllgor Amwynderau.

Gweler isod galendr o’r holl gyfarfodydd sydd wedi’u trefnu ar hyn o bryd ar gyfer y flwyddyn gyfredol.