Tŵr Cloc Rhuthun

Hafan > Tŵr Cloc Rhuthun

Tŵr Cloc Rhuthun - Adferiad Amserol

Llyfr ar hanes ac adferiad diweddar.

Gan Heather M Williams and Pwyllgor Adfer Tŵr Cloc Rhuthun.

Croeso i’r llyfr hwn sy’n rhoi gwybodaeth am beth o hanes Tŵr Cloc eiconig Rhuthun, (sy'n cael ei adnabod fel Cofeb Peers hefyd) pam y cafodd ei adeiladu ac esboniad pam y cynhaliwyd gwaith adfer yn ystod hanner olaf 2024. Yn gynnar yn yr 1880au ffurfiwyd pwyllgor bychan yn Rhuthun i ddatblygu prosiect i ddiolch i Joseph Peers a fu’n Glerc i’r Ynadon Heddwch am hanner can mlynedd. Yna 140 o flynyddoedd yn ddiweddarach gwnaeth criw o bobl leol a oedd yn edrych ar y strwythur o’r newydd sylweddoli, er nad oedd mewn perygl o ddisgyn, fod angen rhoi sylw i waith cerrig tŵr y cloc. Yn union fel yn yr 1880au, sefydlwyd pwyllgor bychan yn cynnwys aelodau Cyngor Tref Rhuthun ac unigolion o’r gymuned â diddordeb brwd yn nhreftadaeth bwysig y dref.

Llyfr Tŵr Cloc Rhuthun (PDF)