Hafan > Dyfodol Rhuthun > Amdanom
Dyfodol Rhuthun yw menter cynllun cymunedol Cyngor Tref Rhuthun a sefydlwyd yn 2011, ac sydd wedi cefnogi gweithredu nifer o brosiectau, gan gynnwys Llwybr Celf Rhuthun, ac yn fwy diweddar datblygiad Yr Hen Lys i fod yn ganolbwynt Cymunedol, Dinesig ac Ymwelwyr.
Mae Cyngor Tref Rhuthun yn awr yn cychwyn ar gyfnod ymgysylltu cymunedol arall i amlinellu sut mae uchelgeisiau allweddol yn datblygu fel prosiectau mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill. Mae’r prosiectau’n cynnwys gwelliannau Parth Cyhoeddus ar gyfer Calon y Dref, creu ‘Parc Clwyd’ drwy wella’r rhwydwaith o fannau gwyrdd yn y dref ac ar hyd yr afon.
Fel rhan o’r fenter, cafodd pobl leol nifer o gyfleoedd ym mis Medi 2023 i gymryd rhan drwy raglen o ddigwyddiadau a roddodd Rhuthun unwaith eto ar flaen y gad mewn trafodaeth genedlaethol am gynaliadwyedd Trefi llai yn y DU. Daeth addysgwyr a gweithwyr proffesiynol ym meysydd cynllunio, adfywio ac ymgysylltu ynghyd ddydd Mercher 20 Medi ar gyfer Uwchgynhadledd Trefi Bach y Dyfodol yn Rhuthun. Bydd digwyddiadau yn y dyfodol yn cael eu cynllunio wrth i brosiectau fynd rhagddynt.