Hafan > Ymweld â Rhuthun > Eich Ymweliad > Porth i Antur
Nid dim ond cyrchfan yw Rhuthun, ond tref farchnad ddymunol sy’n swatio yng nghanol gogledd Cymru. Mae’n fan cychwyn perffaith i anturiaethau di-rif sy’n aros i gael eu canfod. Mae’n safle delfrydol i grwydro tirluniau syfrdanol a threftadaeth gyfoethog yr ardal. .
Nid yw Eryri (Snowdonia) yn bell iawn i ffwrdd. Mae atyniad y parc cenedlaethol eiconig hwn yn hudolus, gan ddenu anturiaethwyr a rhai sy’n caru byd natur, fel ei gilydd. P’un ai a ydych yn ddringwr profiadol sy’n awyddus i goncro copa’r Wyddfa (Snowdon) neu’n gerddwr hamddenol sy’n chwilio am dawelwch ei llwybrau is, mae’r parc yn cynnig cyfoeth o ddewisiadau.
Yn agos iawn i Rhuthun, mae tref hudolus Llangollen, lle llifa’r Afon Ddyfrdwy’n osgeiddig drwy’r dyffryn. Yma, gallwch fwynhau golygfeydd hyfryd o’r mynyddoedd cyfagos trwy fynd ar daith ar ddyfroedd tawel y gamlas. Mae dyfrbont enwog Pontcysyllte, safle Treftadaeth y Byd UNESCO, yn ymgodi uwchben, ac yn cynnig golygfa syfrdanol o’r tirlun. I’r rheiny sy’n chwilio am ychydig mwy o antur, mae’r ardal yn enwog am ei rafftio dŵr gwyn a cheufadu, lle mae rhuthr yr afon yn cyd-fynd â gwefr y profiad.
Mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy mor agos fel eu bod yn denu, gyda’u bryniau tonnog a’u cribau dramatig, sy’n berffaith ar gyfer cerdded. Mae’r llwybrau yma’n eich harwain at fannau gwylio sydd â golygfeydd godidog ac sy’n datgelu harddwch cefn gwlad Cymru. Wrth ichi grwydro drwy’r tirlun syfrdanol hwn, efallai y dewch o hyd i weddillion bryngaerau hanesyddol a thomenni claddu hynafol, bob un yn adrodd stori am y bobl a alwodd y tir hwn yn gartref ar un adeg.
I’r rheiny sydd â hoffter o hanes, pa le gwell na thref hanesyddol Rhuthun i fod yn borth i drefi hanesyddol eraill Caer a Chonwy. Mae Caer, â’i waliau Rhufeinig a’i phensaernïaeth ganoloesol, sydd wedi’u cadw mor dda, yn eich denu i ymlwybro ar hyd ei strydoedd coblog, lle mae adleisiau o’r gorffennol yn atseinio ym mhob cornel. Mae Cadeirlan drawiadol Caer a’r Rhesi (‘Rows’) prysur, â’u siopau deulawr unigryw, yn gyfuniad hyfryd o hanes a modernrwydd. Yn y cyfamser, mae Conwy, yng nghysgod ei chastell mawreddog, yn safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n mynd â chi yn ôl mewn amser. Mae siopau del a chaffis ar hyd strydoedd culion y dref , lle gallwch flasu danteithion lleol tra’ch bod yn edmygu golygfeydd o’r aber a’r mynyddoedd y tu hwnt.