Blasau Lleol

Hafan > Ymweld â Rhuthun > Eich Ymweliad > Blasau Lleol

Wrth i’r haul ostwng islaw’r gorwel i daflu gwrid euraidd, cynnes dros dref hudolus Rhuthun, rwan yw’r amser i brofi arogleuon rhyfeddol prydau min nos sy’n dod o amrywiaeth o fwytai.

Mae bwyty ‘Small Plates’ yn drysor o ran coginio, sy’n denu’r rhai sy’n hoff o’u bwyd o bell ac agos. Mae’n hanfodol archebu bwrdd ymlaen llaw. Mae ei wedd yn eich denu i gamu i mewn a mynd ar antur gastronomig. Mae pob platiaid yn waith celf, wedi’i saernïo’n gelfydd i blesio’r llygad yn ogystal â’r dafod. Mae’r aer yn llawn arogleuon rhyfeddol sbeisys a chynhwysion fffes, sy’n awgrym o’r syrpreisys dymunol sy’n eich aros y tu mewn. Mae’r sŵn sgwrsio tawel yn creu awyrgylch fywiog ond cynhesol, er hynny. 

Dafliad carreg i ffwrdd, mae ‘No. 11’, Sgwâr Sant Pedr yn lle chwaethus i fwyta. Mae’r bwyty diddos hwn yn adnabyddus am ei ogwydd creadigol ar brydau clasurol, lle mae bwydydd traddodiadol Cymreig yn cwrdd â thechnegau coginio cyfoes. Fel Small Plates, mae’r cynhwysion yn lleol, lle mae hynny’n bosibl. Gallwch fwynhau prydau cain ac mae steil hyfryd y bwyty a’r goleuadau ysgafn yn creu lleoliad rhamantus, perffaith ar gyfer noson allan arbennig. .

I’r rheiny sy’n chwilio am brofiad Ffrengig, rhaid ymweld â ‘Jacques’. Mae’r bistro dymunol hwn yn arddangos swyn gwledig, gyda’i gilfachau clyd sy’n denu gwesteion i hamddena dros eu prydau. Mae’r fwydlen yn deyrnged hyfryd i goginio Ffrengig, sy’n cynnwys clasuron fel coq au vin, ynghyd â dewis sylweddol o winoedd. Mae’r awyrgylch yn fywiog, gyda chwerthin a sgwrsio’n llenwi’r awyr, gan ei wneud yn fan delfrydol ar gyfer cinio dathlu neu i gyfarfod yn achlysurol gyda ffrindiau. Ceir cerddoriaeth fyw yno ar rai nosweithiau. .

Yng Ngwesty enwog y Castell, a’r Spa, mae’r profiad bwyta bron yn frenhinol. Mae’r gwleddoedd canoloesol a geir yma yn achlysurol yn mynd â’r gwesteion yn ôl mewn amser, lle mae byrddau hirion yn llawn bwydydd sylweddol yn atgoffa rhywun o wleddoedd o’r canrifoedd a fu. I’r rhai sy’n chwilio am brofiad bwyta mwy cyfoes, mae bwyty’r gwesty’n cynnig bwydlen soffistigedig sy’n amlygu’r gorau o gynnyrch lleol, i gyd wedi’u gweini mewn lleoliad sy’n ymfalchïo mewn golygfeydd syfrdanol o gefn gwlad lleol.

Ynghudd ar Stryd Mwrog mae’r Farmers Arms, man croesawus o gynhesrwydd a lletygarwch, lle mae cymuned yn ffynnu a lle dethlir hanfod bwyd traddodiadol mewn awyrgylch clyd a diffwdan. Mae’r dafarn yn llawn sŵn chwerthin a sgwrsio, wrth i bobl leol ac ymwelwyr, fel ei gilydd, ymgasglu i rannu straeon dros brydau sylweddol a pheintiau o gwrw. Mae’r profiad bwyta yn y Farmers Arms yn ymwneud yn gyfan gwbl â chysur ac ansawdd, gyda bwydlen sy’n arddangos y gorau o fwyd tafarn, dewis hyfryd o opsiynnau ar gyfer pob archwaeth. Mae’r pysgod a sglodion clasurol, â’i gytew euraidd, creisionllyd a’r pysgod haenog yn plesio pawb, wedi’i weini gyda sglodion cartref a saws tartar siarp sy’n ychwanegu cic blasus. Mae digon o amrywiaeth o gyris ar gael hefyd fel arfer.

Yn ystod y dydd, cofiwch ein dewis helaeth o gaffis a siopau coffi o’r Café R poblogaidd sydd wedi’i addurno â gwaith celf lleol o ardal Rhuthun, i Nest, Siop Nain, Teacups a Café Grande, sydd fel tardis.