Maes Chwarae Natur

Hafan > Ymweld â Rhuthun > Eich Ymweliad > Maes Chwarae Natur

Mae ardal Rhuthun, sy’n swatio yng nghanol Gogledd Cymru, yn ganfas wedi’i baentio â lliwiau gwyrdd a phorffor Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd, un sy’n denu anturiaethwyr a breuddwydwyr fel ei gilydd.

Wrth i’r haul godi dros Moel Famau, (sef yr uchaf o Fryniau Clwyd) daw ei chopa i’r golwg, fel coron yn niwl y bore, gan ddenu cerddwyr i ddringo’i llethrau. Mae’r golygfeydd panoramig o’r copa’n datgelu clytwaith o ddyffrynnoedd a bryniau, rhywbeth syfrdanol i’n hatgoffa o gelfyddyd natur. Gellir gweld golygfeydd o Eryri a Glannau Merswy. 

Saif Moel Arthur a Moel Famau yn warchodol, eu cloddweithiau hynafol yn adrodd straeon am wroniaid Celtaidd a grwydrodd y tiroedd hyn ar un adeg. Ategir harddwch gerwin y bryniau yn ei dymor gan y grug o liwiau amrywiol sy’n creu cyffro o liw. Cwyd Moel Fenlli â phresenoldeb awdurdodol, ei chrib serth yn cynnig her i’r rheiny a fentra ei dringo. .

Ewch ar fws 76 sy’n dilyn troeon Bryniau Clwyd, gan gynnig taith â golygfeydd hardd drwy’r tirlun trawiadol hwn. Gall teithwyr syllu ar yr olygfa sy’n newid yn barhaus, lle mae’r bryniau’n esgyn ac yn disgyn fel tonnau. Defnyddiwch y bws fel rhan o daith linellol efallai.

Cofiwch Goedwig Clocaenog i’r gorllewin o Rhuthun.  Os byddwch yn gyflym, efallai y cewch gipolwg ar un o wiwerod coch, prin y goedwig. Mae’r goedwig yn lloches i fywyd gwyllt, yn arwain at lecynnau agored cyfrinachol ag arogleuon priddlyd brigau a cherrig sydd wedi’u gorchuddio â mwsogl.

Ymhellach o Rhuthun, estyn ucheldir Hiraethog yn fawreddog tuag at lynnoedd Alwen ac Aled. Tir uchel hynafol â llynnoedd disglair, dengar.

I’r rheiny sy’n chwilio am antur, mae’r ganolfan beicio mynydd yn Llandegla yn hafan o adrenalin a chyffro. Mae llwybrau’n nadreddu drwy’r goedwig, gan gynnig heriau i feicwyr o bob gallu. 

Wrth iddi nosi dros Fryniau Clwyd, mae’r tirlun yn newid yn deyrnas hud. Daw’r sêr i’r golwg gan ddisgleirio fel diemwntiau yn erbyn yr awyr felfed, a thafla’r lleuad wrid arian dros y bryniau. Dyma’r prosiect Awyr Dywyll. Yn ystod yr adegau hyn, dan ehangder eang awyr y nos, y bydd Bryniau Clwyd yn datgelu eu hunain. Man lle mae natur, hanes a dychymyg yn plethu, gan wahodd pawb sy’n ymweld i fod yn rhan o’i stori fythol.