Clerc y Dref

Hafan > Cyngor Tref Rhuthun > Amdanom > Clerc y Dref

Clerc y Dref

Iolo Williams

Gweithio efo Ni!

Ydych chi'n weinyddwr profiadol sy'n awyddus i ehangu eich sgiliau o fewn hyblygrwydd rôl ran-amser o 20 awr yr wythnos?

Mae Cyngor Tref Rhuthun yn chwilio am Weinyddwr sy’n gyfrifol am weinyddiad effeithiol y Cyngor Tref a’i adnoddau, gan gefnogi Clerc y Dref a Chynghorwyr Tref yn eu cyfrifoldebau ariannol, rheolaeth a pherfformiad statudol.

Mae hwn yn gyfle perffaith i weithiwr proffesiynol trefnus sydd â llygad craff am fanylion i wneud gwahaniaeth wrth galon y Cyngor Tref. Byddwch yn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn ddi-dor y tu ôl i'r llenni. Bydd eich gallu i amldasg ac aros o flaen terfynau amser yn eich gwneud yn aelod anhepgor o staff.

Byddech wedi’ch lleoli yng nghanol tref Rhuthun yn yr Hen Lys, sy’n aml ar agor i’r cyhoedd, lle bydd angen i chi dderbyn ymwelwyr ar fusnes y Cyngor Tref. Gweithio 20 awr yr wythnos gyda hyblygrwydd fel y cytunwyd gyda'ch rheolwr llinell, Clerc y Dref. Mae'r gwaith fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener. Nid oes unrhyw waith nos yn cael ei ragweld. .

Bydd y swydd yn cael ei chynnig am gyfnod prawf o chwe mis, ac wedi hynny gellir ei therfynu gyda mis o rybudd gan y naill ochr a’r llall.

Gwelwch y disgrifiad swydd am fwy o fanylion, a gyrrwch ffurflen gais atom i geisio.

CYFLOG: £24,404 i £24,790 pro rata

DYDDIAD CAU: 6 Rhagfyr 2024

CYFWELIADAU : 12 Rhagfyr 2024